A all meddalwedd API wella gofal i gleifion?
MP3•Beranda episode
Manage episode 331516385 series 3160301
Konten disediakan oleh Bengo Media and Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Semua konten podcast termasuk episode, grafik, dan deskripsi podcast diunggah dan disediakan langsung oleh Bengo Media and Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru atau mitra platform podcast mereka. Jika Anda yakin seseorang menggunakan karya berhak cipta Anda tanpa izin, Anda dapat mengikuti proses yang diuraikan di sini https://id.player.fm/legal.
Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop archfarchnad wythnosol ar eich gliniadur, byddwch wedi defnyddio API (Rhyngwyneb Rhaglenni Cymhwysiad). Mae'n god sy'n caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo o un defnyddiwr i'r llall - a hebddo, byddai'r rhyngrwyd fel y gwyddom, yn ei chael hi'n anodd bodoli.
Mae APIs eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG ond a ellid eu defnyddio'n fwy helaeth i helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu?
Yn y podlediad hwn bydd Dyfan Searell, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Elidir Health, sy’n creu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer y maes iechyd a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn trafod sut y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn. Meddai Elin, “ Mae gennym ni gyfle anhygoel i fod yn flaengar…. mae angen i ni beidio bod yn ofnus ond yn fwy uchelgeisiol.”
Mae Dyfan, sydd wedi bod yn gweithio gydag arloeswyr blaengar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn datblygu sustem cofnodion cleifion ddi bapur, yn credu bod angen addysgu pawb am botensial y dechnoleg hon er mwyn datrys problemau gofal iechyd. “Mae’r gwasanaeth iechyd wedi dechrau yng Nghymru a nawr mae modd i’r gwasanaeth iechyd digidol hefyd gychwyn yng Nghymru- da ni o’r maint iawn a’r gennym ni’r modd i hynny ddigwydd.” Mae Elin yr un mor bositif. “Rwy’n teimlo’n gyffrous a hyderus bod gobaith mawr yma.”
Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
…
continue reading

16 episode